SL(5)223 - Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid a Phasbortau Anifeiliaid Anwes (Ffioedd) (Cymru) 2018
Cefndir a diben
Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r ffioedd sy'n daladwy i Weinidogion Cymru ym maes iechyd anifeiliaid. Mae'r ffioedd yn daladwy gan weithredwyr sefydliadau a gweithfeydd y mae'n ofynnol eu cymeradwyo a'u harolygu o dan Reoliad yr UE rhif 1069/2009, sy'n gosod rheolau iechyd yn ymwneud â sgil-gynhyrchion anifeiliaid, a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid, na fwriedir i bobl eu bwyta.
Y weithdrefn
Negyddol.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae'r Rheoliadau hyn yn codi o rwymedigaethau'r UE o dan Reoliad UE rhif 1069/2009 mewn perthynas â rheolau iechyd yn ymwneud â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac, felly, bydd y Rheoliadau hyn yn ffurfio rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl i’r DU adael yr UE.
Mae'r Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin yn nodi bod "iechyd anifeiliaid a’r gallu i olrhain anifeiliaid" yn faes polisi sy'n debygol o fod yn ddarostyngedig i reoliadau cymal 15 o dan Fil yr UE (Ymadael). Felly, mae'r gyfraith sy'n dod o dan y Rheoliadau hyn yn debygol o fod yn un o’r meysydd hynny yng nghyfraith yr UE a gaiff eu rhewi tra bydd fframweithiau cyffredin yn cael eu rhoi ar waith.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb y llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
4 Mehefin 2018